Dau am bris un: samplo lleuad y blaned Mawrth

Yn y flwyddyn 2020, bydd asiantaeth ofod Rwsia yn gyrru taith archwiliol i un o ddau leuad y blaned Mawrth, Phobos. Pwrpas y daith, o’r enw Phobos-Grunt 2, fydd i hel samplau o arwyneb Phobos a’u dychwelyd i’r Ddaear. Ond mae ymchwil newydd wedi dangos y bydd samplau o’r fath hefyd yn cynnwys darnau o’r blaned Mawrth ei hun.

Ceudwll Stickney ar wyneb Phobos, un o’r ddau leuad sy’n cylchdroi’r blaned Mawrth. Cydnabyddiaeth: Nasa/JPL-Caltech/Prifysgol Arizona.

Mae tipyn o ddirgelwch o amgylch Phobos, lleuad bychan iawn sy’n cylchdroi Mawrth yn eithaf agos i’r arwyneb. Mae rhai’n credu mai asteroid ydi o, wedi ei ddal gan gylchdro’r blaned; mae eraill wedi awgrymu mai darn o’r blaned ei hun yw Phobos, wedi ei daro oddi ar yr arwyneb yn gynnar yn hanes Mawrth.

Dros filiynnau o flynyddoedd, mae trawiadau wedi chwythu llwch a cherrig oddi ar wyneb Mawrth. Mae rhai o’r cerrig a’r gronynnau llwch hyn wedi glanio ar Phobos. Golyga hyn for ychydig o’r creicaen (haen drwchus o lwch a phridd) sy’n gorchuddio’r lleuad yn dod o Fawrth.

Y cwestiwn a ofynnwyd gan James Head a Ken Ramsley ym Mhrifysgol Brown yn yr Unol Daleithiau yw faint o’r creicaen yma sy’n dod o Fawrth. Yn ôl Head, mae’r cwestiwn yn un ymarferol, yn hytrach nag academaidd, oherwydd fod cychwyn y daith Rwsiaidd mor agos. Meddai: “Mae’r gwaith hwn yn cadarnhau fod samplau o Fawrth i’w canfod ym mhridd Phobos, ac yn dangos sut mae eu crynodiad yn amrywio gyda’u dyfnder. Bydd hyn yn bwysig iawn wrth ddylunio driliau a chyfarpar eraill.”

Dechreuodd y gwaith fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y project Phobos-Grunt cyntaf yn 2011, ond methodd y daith honno â gadael cylchdro’r Ddaear. Mae asiantaeth ofod Rwsia yn obeithiol y bydd Phobos-Grunt 2 yn fwy llwyddiannus.

Daeth ymchwil Head a Ramsley i’r canlyniad fod darnau o’r blaned Mawrth yn bresennol yng nghreicaen Phobos ar raddfa o 250 rhan ym mhob miliwn. Mae Ramsley hefyd yn tybio y bydd y rhan fwyaf o’r deunydd Mawrthaidd yma yn haenau uchaf y creicaen: “Dim ond yn ddiweddar – ers tua 100 miliwn o flynyddoedd – y mae Phobos wedi bod mor agos â hyn i Fawrth. Yn y gorffennol pell, roedd o’n cylchdroi yn llawer uwch.”

Mae Phobos-Grunt 2 yn rhan o ymdrech enfawr gan asiantaeth ofod Rwsia i ddeall mwy am y blaned goch. Yn 2018, bydd dau gosmonot yn aros ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) am flwyddyn, yn dod yn ôl i’r Ddaear i ymarfer arbrofion fel petaen nhw ar wyneb Mawrth, ac yna’n dychwelyd i’r ISS am flwyddyn arall i efelychu’r siwrne’n ôl adre. Mae taith ddynol i Fawrth, yn defnyddio llong ag injan niwclear, wedi ei chynllunio ar gyfer 2035.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon am y tro cyntaf ar fy hen flog.