Newydd i natur: Spathoglottis jetsunae

Beth ydi o? Rhywogaeth newydd o degeirian (orchid) ydi Spathoglottis jetsunae. Mae modd meithrin nifer o aelodau eraill y genws, a rhoddir yr enw ‘tegeirian y ddaear’ arnyn nhw weithiau.

Ym mhle gafodd o ei ganfod? Cafwyd o hyd i S jetsunae yn ardal Zhemgang, Bhwtan.

Sut cafodd ei enw? Mae’r rhywogaedd wedi ei henwi i anrhydeddu’r Frenhines Jetsun Pema Wangchuck o Fhwtan, gyda’r gwyddonwyr yn dweud yn eu herthygl fod ganddi “ddiddordeb ymroddedig a diffuant” mewn gwarchod yr amgylchedd a byd natur y wlad. Daw enw’r genws, Spathoglottis o’r geiriau Lladin spatha (gwain neu sheath) a glottis (tafod), sy’n cyfeirio at wefus (petal isaf) y blodau.

Beth yw ei statws cadwraeth? Does dim gwybodaeth am statws pennodol y rhywogaeth, ond dim ond mewn dau leoliad y daeth y gwyddonwyr o hyd i blanhigion S jetsunae. Mae rhywogaethau tebyg sy’n tyfu yn yr un lleoliadau mewn perygl difrifol.

Sut mae’n edrych? Llysieuyn gyda blodau piws a gwefus felen. Mae colofn hir, biws yn codi uwchben y wefus ac yn lledaenu tuag at y brig. Roedd gan y planhigion welodd yr ymchwilwyr 2-3 deilen. Fel llawer o degeiriannau eraill, mae gan S jetsunae fwlb ffug ar waelod y planhigyn er mwyn cadw dŵr a maeth. Mae’r gwreiddiau’n denau ac edafeddog.

Diagram o rannau gwahanol o’r tegeirian Spathoglottis jetsunae, rhywogaeth newydd. Ffotograff gan Nima Gyeltshen a diagram gan Stig Dalström.

Sut gynefin sydd ganddo? Mae’n tyfu mewn pridd bas mewn coedwigoedd bytholwyrdd tua 1000m yn uwch na lefel y môr.

Sut alla’i ddarganfod mwy? dx.doi.org/10.15517/lank.v17i3.31575