Newydd i natur: Primula zhui

Beth ydi o? Primula zhui, rhywogaeth newydd o blanhigion yn nheulu’r briallu.

Ym mhle gafodd o ei ganfod? Mae’n endemig i dde talaith Yunnan yn China. Dyma’r rhan o’r wlad sydd â mwyaf o fioamrywiaeth.

Sut cafodd ei enw? Cafodd y rhywogaeth ei henwi i anrhydeddu’r Athro Zhu Hua, tacsonomydd planhigion o Yunnan, “am ei gyfraniad i ymchwil botanegol mewn ardaloedd trofannol,” yn ôl Yang Bin, un o’r gwyddonwyr a fathodd yr enw.

Beth yw ei statws cadwraeth? Mae P zhui mewn perygl difrifol yn ôl y gwyddonwyr oherwydd effaith datgoedwigo, sydd wedi rhannu poblogaethau’r planhigyn yn ddarnau.

Sut mae’n edrych? Llysieuyn lluosflwydd (perennial) tua 12-20cm o daldra ydi P zhui, gyda dail wedi eu lledaenu mewn cylch. Mae ei blodau’r planhigyn yn dangos heterostyledd, gyda phum petal lliw pinc golau.

Lluniau o blanhigion Primula zhui, rhywogaeth newydd o dalaith Yunnan, China. Lluniau o’r Nordic Journal of Botany.

Heterostyledd? Mae heterostyledd i’w ganfod mewn briallu (P vulgaris) ac ambell i blanhigyn arall. Yn y rhywogaethau yma, mae dau ffurf i’w gael, gydag organnau rhyw mewn safleoedd gwahanol ar y blodyn. Mewn blodau llygad pin, mae’r pistil (yr organ fenywaidd) yn dal, gyda’r stigma ar frig pibell y blodyn, tra bo’r antherau (organnau gwrywaidd) wedi eu lleoli hanner ffordd i lawr y bibell. Mewn blodau llygad eddi, mae’r pistil yn fyr, gyda’r stigma lawr yng nghanol y tiwb, a’r antherau ar y brig.

Sut gynefin sydd ganddo? Cafodd y rhywogaeth ei darganfod yn isdyfiant coedwig isdrofannol o goed dail llydan, tua 1400m yn uwch na lefel y môr. Dyma’r unig le mae P zhui wedi ei weld.

Sut alla’i ddarganfod mwy? dx.doi.org/10.1111/njb.01656

ON – Mae erthygl Richard Morgan am friallu yng nghylgrawn Cymru, fel pob erthygl ganddo, yn bleser i’w darllen.