Gwenyn mêl: bywyd gwyllt neu anifeiliaid fferm?

Os gofynnaf i chi ddychmygu darlun o fyd natur, dwi’n meddwl y galla’i ddyfalu rhai o’r pethau ddaw i’ch meddwl. Nant yn ymlithro trwy goedwig, efallai, gydag ambell i blanhigyn yn cael ei beillio gan wenynen streipiog.

Ond falle y dylech chi ail-gysidro, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, sy’n sgwennu yng nghylchgrawn Science na ddylen ni ystyried gwenyn mêl fel bywyd gwyllt a rhan o natur, ond fel anifeiliad fferm yn gyfystyr a defaid neu wartheg. Dwi’n dueddol o gytuno.

Mae poblogaethau gwenyn mêl wedi dirywio llawer gwaeth na’r disgwyl yn y blynyddoedd diwethaf. Rhoddir yr enw Saesneg colony collapse disorder (CCD) ar hyn yn aml. Mae gan CCD nifer o achosion gwahanol, gan gynnwys gwiddonyn parasitig o’r enw Varroa destructor, ambell i afiechyd, ac effaith plaladdwyr sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant amaeth.

Ac mae posib y bydd lleihad mewn nifer gwenyn mêl yn cael effaith andwyol ar sicrwydd bwyd. Mae hyd at 75% o gnydau bwyd yn manteisio oherwydd peilliad gan wenyn a thrychfilod eraill, ac mae traean o’n bwyd yn gwbl ddibynol arnyn nhw. Mae gwenyn mêl yn rhan bwysig o’r gwaith peillio yma, a’r wenynen fêl Ewropeaidd (Apis mellifera) ydy’r rhywogaeth bwysicaf ar gyfer peillio cnydau bwyd yn hemisffer y gorllewin. Mae nhw hefyd yn cyfrannu tuag at yr economi drwy’r diwydiant mêl.

Ond trwy ganolbwyntio ar wenyn mêl, rydyn ni’n anwybyddu miloedd o rywogaethau pwysig o beillwyr gwyllt, yn ôl y gwyddonwyr, Jonas Geldmann a Juan P González-Varo. Gall hyn fod yn sefyllfa beryg, gan y gall gwenyn mêl fod yn niweidio gwenyn gwyllt megis Bombus (bumblebee) a gwenyn unig (solitary bees) drwy drosglwyddo clefydau a chystadlu am fwyd.

Gwenynen fêl (Apis mellifera, ar y chwith) a gwenynen wyllt (Bombus terrestris, ar y dde) yn peillio blodau. Drwy gymysgu’r peryglon sy’n wynebu’r ddau fath o wenyn, mae pobl yn drysu rhwng dadl amgylcheddol ac un amaethyddol. Lluniau gan FrauBucher a payayita ar Flickr.

Yn 2014, dangosodd gwaith wedi ei arwain gan Mark Brown o Brifysgol Llundain Royal Holloway y gall clefydau sy’n effeithio ar wenyn mêl hefyd heintio gwenyn gwyllt. Dangosodd y gwaith hwnnw fod rhywogaethau Apis a Bombus o nifer o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr yn rhannu’r un straeniau o firwsau. Awgryma hyn y gall y firwsau basio o un rhywogaeth i’r llall. Mae gwenyn gwyllt yn dioddef yn barod oherwydd newidiadau yn y ffordd mae tir yn cael ei ddefnyddio – yn aml iawn, dydy gwenyn gwyllt ddim yn teithio’n bell tra’n hel bwyd, felly mae caeau mawr o gnydau heb flodau yn peri niwed iddyn nhw. Gall afiechydon wedi eu trosglwyddo o wenyn mêl eu niweidio ymhellach.

Mae’r gwenyn mêl sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant amaeth yn cael eu magu a’u ffermio ar raddfa anferthol, ac mae tyfwyr cnydau yn aml yn symud cychod gwenyn ar hyd cyfandiroedd ar gyfer peillio cnydau gwahanol, megis rêp olew a choed ffrwythau. Ond bydd neithdar y cnydau hyn yn darfod o fewn ychydig ddyddiau, gan adael y gwenyn mêl i fwydo ar neithdar o flodau gwyllt.

Dyweda González-Varo mai gweithgaredd alldynnol yw cadw gwenyn. “Mae’n tynnu neithdar o’r amgylchedd – adnoddau naturiol sydd eu hangen gan lawer o rywogaethau gwyllt o wenyn a pheillwyr eraill,” meddai.

“Anifeiliaid amaethyddol wedi eu magu yn artiffisial yw gwenyn mêl, yn debyg i dda byw fel moch a gwartheg. Ond mae’r anifieliaid amaethyddol yma yn gallu crwydro llawer pellach na rhai cyffredin, gan darfu ar ecosystemau lleol drwy gystadleuaeth a chlefydau.”

Yn ddiweddar, dwi wedi gweld ambell i ymgyrch gan elusennau fel Greenpeace sydd yn ffafrio prosiectau cadwraeth ar gyfer gwenyn mêl.  Mae un ymgyrch, gan The Nature Conservancy, hyd yn oed y annog pobl i brynnu mêl lleol er mwyn gwarchod gwenyn!

Efallai nad ydy ymgyrchoedd fel y rhain yn ddrwg i gyd. Mae Geldmann a González-Varo yn cymeradwyo’r ffaith fod yr holl sylw wedi gwella ymwybyddiaeth pobl o’r problemau sy’n wynebu peillwyr yn gyffredinol. Ond trwy gymysgu’r helyntion sy’n wynebu’r ddau fath o wenyn, mae peryg y bydd pobl yn drysu rhwng dadl amgylcheddol ac un amaethyddol.

Beth allwn ni ei wneud fel cymdeithas, felly, i amddiffyn poblogaethau gwenyn gwyllt a pheillwyr eraill rhag gwenyn mêl masnachol? Mae Geldmann a González-Varo yn argymell dylunio strategaethau cadwraeth drwy edrych ar niferoedd peillwyr gwyllt, yn hytrach na chanolbwyntio ar gynhyrchiant cnydau fel sy’n digwydd yn aml. Maen nhw hefyd yn galw ar lywodraethau i wahardd defnyddio cychod gwenyn masnachol mewn ardaloedd gwarchodedig ac yn argymell cyfyngu maint heidiau’r gwenyn mêl sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant amaeth.

Mae prynu mêl lleol yn ffordd wych o genfnogi cynhyrchwyr bychain a’r economi leol, wrth gwrs. Ond ddylen ni ddim drysu rhwng hyn a chadwraeth.

Y lygoden dyrchol sy’n byw a byw

Mewn anifeiliaid, yn cynnwys pobl, mae’n tebygrwydd ni o farw yn cynnyddu wrth i ni heneiddio – a does dim llawer y gallwn ei wneud am hynny.

Ond dydy’r llygoden dyrchol noeth – naked mole rat – ddim am gydymffurfio. Mae’r anifeiliaid bychain yma yn gallu byw yn hirach nac unrhwy gnofilyn arall. Ac mae ymchwil newydd wedi dangos nad ydy marwoldeb llygod tyrchol yn cynyddu gydag oed, sy’n golygu mai’r rhain yw’r unig famaliaid sydd ddim yn heneiddio.

Mae llygod tyrchol noeth (Heterocephalus glaber) wedi hen beri syndod i wyddonwyr. Yn ogystal â’u hir oes – gallant fyw nes eu bod yn 30 oed neu fwy – maen nhw’n un o ddim on dwy rywogaeth o famaliaid ag iddynt strwythur cymdeithasol tebyg i wenyn. Ym mhob nythfa, mae hyd at 300 o unigolion yn gweithio gyda’i gilydd i fagu disgynyddion un frenhines. Os bydd y frenhines yn gadael y nyth neu’n marw, bydd un o’r gweithwyr benywaidd arall yn cymryd drosodd.

Dydy’r lygoden dyrchol noeth ddim yn heneiddio fel mamaliaid eraill. Llun gan Smithsonian National Zoo ar Flickr.

Gan eu bod nhw’n byw mor hir, mae astudio sut mae llygod tyrchol yn heneiddio yn cymryd amser, ac mae’r rhan fwyaf o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn barod wedi defnyddio niferoedd bychain o unigolion dros amser byr. Ond mae’r astudiaeth newydd hon yn defnyddio poblogaeth o lygod tyrchol noeth a ddechreuwyd yn 1980. Gan ddefnyddio data wedi ei recordio dros 35 mlynedd ar gyfer dros 3000 o lygod tyrchol, mae gwyddonwyr o gwmni ymchwil Calico yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn edrych ar ystod bywyd yr anifeiliaid.

Yn ôl deddf Gompertz-Makeham, mae’r gyfradd farw mewn pobl yn cynyddu yn esbonyddol gydag amser – hynny yw, yr hynnaf mae rhwyun yn byw, y mwyaf yw eu tebygolrwydd o farw. Mae hyn hefyd yn wir mewn anifieliaid eraill sydd wedi eu defnyddio mewn astudiaethau heneiddio, gan gynnwys ceffylau a llygod.

Ond dydy’r ddeddf hon ddim yn wnelo â llygod tyrchol noeth. Ni ddaeth yr ymchwilwyr o hyd i unrhyw arwyddion o henaint yn yr anifieliaid er gwaethaf eu hoed, boed nhw wedi atgynhyrchu neu beidio. Yn y ffordd yma, maen nhw’n wahanol i bob anifail arall sydd wedi ei astudio o’r blaen.

Dywedodd Rochelle Buffenstein, un o’r gwyddonwyr a wnaeth y gwaith, fod llygod tyrchol noeth yn byw yn llawer hirach nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o’u maint. “Mae ein hymchwil ni yn dangos nad ydy llygod tyrchol noeth yn heneiddio yn yr un ffordd â mamaliaid eraill,” meddai, “a dyw eu perygl o farw ddim yn cynyddu, hyd yn oed pan maen nhw 25 gwaith yn hŷn na’r oed atgenhedlu.”

Mae cwmni Calico, sy’n rhan o Alphabet, sydd hefyd yn berchen ar Google, yn gobeithio defnyddio’r wybodaeth a geir o astudiaethau fel yr un yma i ddatblygu gwaith ar heneiddo mewn pobl.

“Mae’r darganfyddiadau yma,” meddai Buffenstein, “yn atgyfnerthu’r gred fod llygod tyrchol noeth yn anifieliaid arbennig i’w hastudio er mwyn gwella ein dealltwriaeth o fecanweithiau biolegol hir oes.”

Gallwch ddarllen yr erthygl wyddonol yn eLife yma.

Read this post in English here.