Gwenyn mêl: bywyd gwyllt neu anifeiliaid fferm?

Os gofynnaf i chi ddychmygu darlun o fyd natur, dwi’n meddwl y galla’i ddyfalu rhai o’r pethau ddaw i’ch meddwl. Nant yn ymlithro trwy goedwig, efallai, gydag ambell i blanhigyn yn cael ei beillio gan wenynen streipiog.

Ond falle y dylech chi ail-gysidro, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, sy’n sgwennu yng nghylchgrawn Science na ddylen ni ystyried gwenyn mêl fel bywyd gwyllt a rhan o natur, ond fel anifeiliad fferm yn gyfystyr a defaid neu wartheg. Dwi’n dueddol o gytuno.

Mae poblogaethau gwenyn mêl wedi dirywio llawer gwaeth na’r disgwyl yn y blynyddoedd diwethaf. Rhoddir yr enw Saesneg colony collapse disorder (CCD) ar hyn yn aml. Mae gan CCD nifer o achosion gwahanol, gan gynnwys gwiddonyn parasitig o’r enw Varroa destructor, ambell i afiechyd, ac effaith plaladdwyr sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant amaeth.

Ac mae posib y bydd lleihad mewn nifer gwenyn mêl yn cael effaith andwyol ar sicrwydd bwyd. Mae hyd at 75% o gnydau bwyd yn manteisio oherwydd peilliad gan wenyn a thrychfilod eraill, ac mae traean o’n bwyd yn gwbl ddibynol arnyn nhw. Mae gwenyn mêl yn rhan bwysig o’r gwaith peillio yma, a’r wenynen fêl Ewropeaidd (Apis mellifera) ydy’r rhywogaeth bwysicaf ar gyfer peillio cnydau bwyd yn hemisffer y gorllewin. Mae nhw hefyd yn cyfrannu tuag at yr economi drwy’r diwydiant mêl.

Ond trwy ganolbwyntio ar wenyn mêl, rydyn ni’n anwybyddu miloedd o rywogaethau pwysig o beillwyr gwyllt, yn ôl y gwyddonwyr, Jonas Geldmann a Juan P González-Varo. Gall hyn fod yn sefyllfa beryg, gan y gall gwenyn mêl fod yn niweidio gwenyn gwyllt megis Bombus (bumblebee) a gwenyn unig (solitary bees) drwy drosglwyddo clefydau a chystadlu am fwyd.

Gwenynen fêl (Apis mellifera, ar y chwith) a gwenynen wyllt (Bombus terrestris, ar y dde) yn peillio blodau. Drwy gymysgu’r peryglon sy’n wynebu’r ddau fath o wenyn, mae pobl yn drysu rhwng dadl amgylcheddol ac un amaethyddol. Lluniau gan FrauBucher a payayita ar Flickr.

Yn 2014, dangosodd gwaith wedi ei arwain gan Mark Brown o Brifysgol Llundain Royal Holloway y gall clefydau sy’n effeithio ar wenyn mêl hefyd heintio gwenyn gwyllt. Dangosodd y gwaith hwnnw fod rhywogaethau Apis a Bombus o nifer o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr yn rhannu’r un straeniau o firwsau. Awgryma hyn y gall y firwsau basio o un rhywogaeth i’r llall. Mae gwenyn gwyllt yn dioddef yn barod oherwydd newidiadau yn y ffordd mae tir yn cael ei ddefnyddio – yn aml iawn, dydy gwenyn gwyllt ddim yn teithio’n bell tra’n hel bwyd, felly mae caeau mawr o gnydau heb flodau yn peri niwed iddyn nhw. Gall afiechydon wedi eu trosglwyddo o wenyn mêl eu niweidio ymhellach.

Mae’r gwenyn mêl sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant amaeth yn cael eu magu a’u ffermio ar raddfa anferthol, ac mae tyfwyr cnydau yn aml yn symud cychod gwenyn ar hyd cyfandiroedd ar gyfer peillio cnydau gwahanol, megis rêp olew a choed ffrwythau. Ond bydd neithdar y cnydau hyn yn darfod o fewn ychydig ddyddiau, gan adael y gwenyn mêl i fwydo ar neithdar o flodau gwyllt.

Dyweda González-Varo mai gweithgaredd alldynnol yw cadw gwenyn. “Mae’n tynnu neithdar o’r amgylchedd – adnoddau naturiol sydd eu hangen gan lawer o rywogaethau gwyllt o wenyn a pheillwyr eraill,” meddai.

“Anifeiliaid amaethyddol wedi eu magu yn artiffisial yw gwenyn mêl, yn debyg i dda byw fel moch a gwartheg. Ond mae’r anifieliaid amaethyddol yma yn gallu crwydro llawer pellach na rhai cyffredin, gan darfu ar ecosystemau lleol drwy gystadleuaeth a chlefydau.”

Yn ddiweddar, dwi wedi gweld ambell i ymgyrch gan elusennau fel Greenpeace sydd yn ffafrio prosiectau cadwraeth ar gyfer gwenyn mêl.  Mae un ymgyrch, gan The Nature Conservancy, hyd yn oed y annog pobl i brynnu mêl lleol er mwyn gwarchod gwenyn!

Efallai nad ydy ymgyrchoedd fel y rhain yn ddrwg i gyd. Mae Geldmann a González-Varo yn cymeradwyo’r ffaith fod yr holl sylw wedi gwella ymwybyddiaeth pobl o’r problemau sy’n wynebu peillwyr yn gyffredinol. Ond trwy gymysgu’r helyntion sy’n wynebu’r ddau fath o wenyn, mae peryg y bydd pobl yn drysu rhwng dadl amgylcheddol ac un amaethyddol.

Beth allwn ni ei wneud fel cymdeithas, felly, i amddiffyn poblogaethau gwenyn gwyllt a pheillwyr eraill rhag gwenyn mêl masnachol? Mae Geldmann a González-Varo yn argymell dylunio strategaethau cadwraeth drwy edrych ar niferoedd peillwyr gwyllt, yn hytrach na chanolbwyntio ar gynhyrchiant cnydau fel sy’n digwydd yn aml. Maen nhw hefyd yn galw ar lywodraethau i wahardd defnyddio cychod gwenyn masnachol mewn ardaloedd gwarchodedig ac yn argymell cyfyngu maint heidiau’r gwenyn mêl sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant amaeth.

Mae prynu mêl lleol yn ffordd wych o genfnogi cynhyrchwyr bychain a’r economi leol, wrth gwrs. Ond ddylen ni ddim drysu rhwng hyn a chadwraeth.