Cerrig byw

Efallai nad yw’r llun isod yn edrych fel llawer. Casgliad o gerrig bychain o ryw draeth diarth efallai. Ond, mewn gwirionedd, planhigion bychain ydi’r rhain, sy’n perthyn i’r genws Lithops. Mae’r ‘cerrig byw’ rhain, fel y’i gelwir, wedi addasu i oroesi dan yr amodau sych iawn sydd i’w cael yn ardaloedd deheuol Affrica. Ychydig iawn…