Os gofynnaf i chi ddychmygu darlun o fyd natur, dwi’n meddwl y galla’i ddyfalu rhai o’r pethau ddaw i’ch meddwl. Nant yn ymlithro trwy goedwig, efallai, gydag ambell i blanhigyn yn cael ei beillio gan wenynen streipiog. Ond falle y dylech chi ail-gysidro, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, sy’n sgwennu yng nghylchgrawn Science na…