Mae’r llywodraeth wedi ymestyn eu cyfyngiadau Covid-19 unwaith eto. Ac er mwyn cadw’r nifer o achosion newydd i lawr bydd angen i lawer o’r cyfyngiadau barhau am amser hir iawn. Yr unig ffordd saff yn ôl at normalrwydd fydd trwy ddatblygu brechlyn (vaccine) yn erbyn y feirws. Mae yna râs fyd-eang yn digwydd erbyn hyn,…
2018: Blwyddyn Ryngwladol y Rîff
Mae Ffederasiwn Danddwr y Byd (CMAS) wedi datgan 2018 fel Blwyddyn Ryngwladol y Rîff* (International Year of the Reef, neu IYOR 2018). Dyma fydd y drydedd Flwyddyn Ryngwladol y Rîff ers i CMAS gynnal digwyddiad o’r fath am y tro cyntaf yn 1997. Fe lansiodd y ffederasiwn eu dathliadau mewn seremoni yn Düsseldorf ar 28…
Gwenyn mêl: bywyd gwyllt neu anifeiliaid fferm?
Os gofynnaf i chi ddychmygu darlun o fyd natur, dwi’n meddwl y galla’i ddyfalu rhai o’r pethau ddaw i’ch meddwl. Nant yn ymlithro trwy goedwig, efallai, gydag ambell i blanhigyn yn cael ei beillio gan wenynen streipiog. Ond falle y dylech chi ail-gysidro, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt, sy’n sgwennu yng nghylchgrawn Science na…
Y lygoden dyrchol sy’n byw a byw
Mewn anifeiliaid, yn cynnwys pobl, mae’n tebygrwydd ni o farw yn cynnyddu wrth i ni heneiddio – a does dim llawer y gallwn ei wneud am hynny. Ond dydy’r llygoden dyrchol noeth – naked mole rat – ddim am gydymffurfio. Mae’r anifeiliaid bychain yma yn gallu byw yn hirach nac unrhwy gnofilyn arall. Ac mae…
Newydd i natur: Primula zhui
Beth ydi o? Primula zhui, rhywogaeth newydd o blanhigion yn nheulu’r briallu. Ym mhle gafodd o ei ganfod? Mae’n endemig i dde talaith Yunnan yn China. Dyma’r rhan o’r wlad sydd â mwyaf o fioamrywiaeth. Sut cafodd ei enw? Cafodd y rhywogaeth ei henwi i anrhydeddu’r Athro Zhu Hua, tacsonomydd planhigion o Yunnan, “am ei…
Newydd i natur: Spathoglottis jetsunae
Beth ydi o? Rhywogaeth newydd o degeirian (orchid) ydi Spathoglottis jetsunae. Mae modd meithrin nifer o aelodau eraill y genws, a rhoddir yr enw ‘tegeirian y ddaear’ arnyn nhw weithiau. Ym mhle gafodd o ei ganfod? Cafwyd o hyd i S jetsunae yn ardal Zhemgang, Bhwtan. Sut cafodd ei enw? Mae’r rhywogaedd wedi ei henwi…
Dau am bris un: samplo lleuad y blaned Mawrth
Yn y flwyddyn 2020, bydd asiantaeth ofod Rwsia yn gyrru taith archwiliol i un o ddau leuad y blaned Mawrth, Phobos. Pwrpas y daith, o’r enw Phobos-Grunt 2, fydd i hel samplau o arwyneb Phobos a’u dychwelyd i’r Ddaear. Ond mae ymchwil newydd wedi dangos y bydd samplau o’r fath hefyd yn cynnwys darnau o’r…
Cerrig byw
Efallai nad yw’r llun isod yn edrych fel llawer. Casgliad o gerrig bychain o ryw draeth diarth efallai. Ond, mewn gwirionedd, planhigion bychain ydi’r rhain, sy’n perthyn i’r genws Lithops. Mae’r ‘cerrig byw’ rhain, fel y’i gelwir, wedi addasu i oroesi dan yr amodau sych iawn sydd i’w cael yn ardaloedd deheuol Affrica. Ychydig iawn…
Y planhigyn anghywir?
Bydd unrhyw wyddonydd sy’n gweithio ar blanhigion yn gyfarwydd â’r chwyn Arabidopsis thaliana, neu Berwr y Fagwyr. Er nad oes gwerth iddo fel planhigyn ynddo’i hun, mae’n bwysig iawn fel organeb model. Mae genom syml, maint bychan a chylchred bywyd fer y planhigyn yn ei wneud yn organeb ddelfrydol ar gyfer astudio nifer o bethau…