Mae Ffederasiwn Danddwr y Byd (CMAS) wedi datgan 2018 fel Blwyddyn Ryngwladol y Rîff* (International Year of the Reef, neu IYOR 2018). Dyma fydd y drydedd Flwyddyn Ryngwladol y Rîff ers i CMAS gynnal digwyddiad o’r fath am y tro cyntaf yn 1997.
Fe lansiodd y ffederasiwn eu dathliadau mewn seremoni yn Düsseldorf ar 28 Ionawr. Maen nhw’n gobeithio denu sylw at y niwed sydd wedi ei wneud i riffiau cwrel (coral reefs) dros ddegawdau diweddar oherwydd newid hinsawdd.
Bydd unrhyw un wyliodd y gyfress deledu Blue Planet II y llynedd yn ymwybodol o’r cannu (bleaching) blynyddol sy’n digwydd ar riffiau cwrel. Dros y bedair mlynedd ddiwethaf, mae’r cannu hyn wedi effeithio ar fwy o gwrel bob blwyddyn, ac wedi para’n hirach nag unrhyw ddigwyddiad cannu sydd wedi ei recordio o’r blaen.
Anifeiliaid bychain ydy cwrel, sy’n byw mewn cytrefi lle ceir llawer iawn o bolypiau unigol yn byw yn sownd wrth ei gilydd. Mae’r polypiau yma’n cynhyrchu calsiwm carbonad – yr un defnydd a geir mewn cregyn – a dyna sy’n caledu’r strwythurau unigryw a welir ar riffiau cwrel. Daw lliw nodweddiadol cwrel o algâu bychain iawn sy’n byw o fewn meinwe’r polypiau. Mae’r rhain yn defnyddio ynni’r haul i greu egni drwy ffotosynthesis yn yr un modd â phlanhigion daearol, a hyn yw prif ffynhonnell fwyd y cwrel.
Mae riffiau yn cael eu cannu pan fydd yr algâu hyn yn gadael meinwe’r cwrel oherwydd newidiadau yn nŵr y môr. Gall y newidiadau hyn gynnwys cynnydd yn nhymheredd y dŵr wrth i’r byd gynhesu, newididadau yn halltedd y dŵr wrth i gapannau iâ ymdoddi, a chynnydd yn faint o asid sydd yn y dŵr oherwydd carbon deuocsid yn yr amgylchedd. Heb yr algâu i ddarparu bwyd ar eu cyfer, gall y polypiau cwrel newynu. Er y gall y cwrel adfer ei hun os bydd y newidiadau’n cael eu gwrthdroi a’r algâu’n dychwelyd, bydd y cwrel yn marw os na fydd hyn yn digwydd mewn da bryd, neu os bydd cannu yn digwydd yn rhy aml.
Mae rhai strwythurau cwrel, megis y rhai a geir ar y Barriff Mawr (Great Barrier Reef) oddi ar arfordir Awstralia, yn filoedd o flynyddoedd o oed ac yn gartref i lawer iawn o fywyd môr. Pan mae riffiau cwrel yn marw, mae’r holl fywyd môr yma hefyd yn caeu ei ladd neu ei ddisodli. Hyd yn oed os bydd amodau lleol yn gwella wedi i’r cwrel farw, byddai’n cymryd amser maith i’r riffiau ail-dyfu a gallu cefnogi cynefinoedd yn yr un modd ag o’r blaen.
Pa obaith, felly, sydd i riffiau cwrel y byd? Yn ôl ecolegwyr, dim ond un ffordd sydd o arbed cwrel: drwy wrthdroi cynhesu byd eang. Bydd hynny’n gofyn am gamau eithriadol, meddai gwyddonwyr mewn erthygl yn Nature yn 2017. “Allwn ni ddim diogelu riffiau rhag yr hinsawdd,” meddai un o’r ymchwilwyr wrth gylchgrawn Science.
Mae codi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu riffiau cwrel yn rhan hanfodol o geisio arbed ein riffiau a bywyd môr yn fwy cyffredinol. Mae IYOR 2018 felly yn ddigwyddiad i’w groesawu, a dwi’n edrych ymlaen i gael clywed pa fath o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu.
Yng Nghymru, mae 2018 hefyd yn Flwyddyn y Môr, ymgyrch gan Lywodraeth Cymru. Dwi’n gobeithio bydd cryn bwyslais ar fywyd gwyllt y môr a’r arfordir fel rhan o hyn. Mi sgwenna’ i fwy am yr ymgyrch hwnnw rywbryd eto.
* Dywed Geiriadur yr Academi mai creigresi cwrel ydyn nhw yn Gymraeg, ond mae’r gair rîff (ll riffiau) i’w weld yn amlach ar y we, yn cynnwys ar Wicipedia, felly dwi am sticio at y gair hwnnw.