Cerrig byw

Efallai nad yw’r llun isod yn edrych fel llawer. Casgliad o gerrig bychain o ryw draeth diarth efallai.

Cydnabyddiaeth: Christer Johansson

Ond, mewn gwirionedd, planhigion bychain ydi’r rhain, sy’n perthyn i’r genws Lithops. Mae’r ‘cerrig byw’ rhain, fel y’i gelwir, wedi addasu i oroesi dan yr amodau sych iawn sydd i’w cael yn ardaloedd deheuol Affrica.

Ychydig iawn o’r planhigyn sydd i’w weld uwchben y llawr, gyda’r rhan fwyaf ohono’n cuddio yng nghysgod y pridd. Rhaid cyfaddef fod y manteision o aros yn nhywyllwch a lleithder y pridd yn rhai cymhellol. Fel hyn, gall y planhigyn arbed ei gyflenwad dŵr ac amddiffyn ei hun rhag gormod o oleuni. Mae edrych fel carreg hefyd yn debygol o gadw’r llysysyddion barus ’na draw!

Ond sut mae Lithops yn llwyddo i gyflawni ffotosynthesis yn effeithlon?

Llun artist o blanhigion lithops, yn cynnwys y rhannau sydd fel arfer wedi’u claddu o dan y pridd.

Mae grŵp o ymchwilwyr o Brifysgol Sheffield wedi datguddio ffyrdd dyfeisgar Lithops o oroesi yn ei gynefin eithafol. Mae gan y planigyn ffenest dryleu ar ei wyneb uchaf sy’n gadael i oleuni gyrraedd y meinwe ffotosynthetig o dan y pridd. Ac er mwyn atal goleuni uwchfioled peryglus rhag gwneud niwed i’r planhigyn, mae pigmentau fflafonoid yn ymgasglu yng nghelloedd y ffenest hon, gan ymddwyn fel sgrîn haul.

Yn rhyfeddol, mae hyn wedi arwain at addasiadau cyferbynnol yn Lithops. Mae’r celloedd ffotosynthetig uwchlaw’r pridd wedi addasu i ddygymod â’r amodau goleuni-uchel sydd i’w cael yno, gyda chymhareb uchel o gloroffyl a:b. Mae hyn yn caniatáu i’r celloedd wneud y defnydd mwyaf o’r goleuni sy’n eu taro. Mae gweddill y celloedd ffotosynthetig, o dan y ddaear, wedi addasu i oroesi mewn cysgod. Mae gan y celloedd hyn gymhareb cloroffyl a:b llawer is er mwyn amlhau i’r eithaf eu hamsugnad goleuni yn yr ardaloedd tywyll hyn o’r planhigyn.

Mae cloroffyl a yn hanfodol ar gyfer ffotosynthesis: mae’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r broses o ddal egni o oleuni’r haul. Pigment ategol ydy cloroffyl b: ei bwrpas yw i ehangu’r amrediad o donfeddi y gall y planhigyn eu defnyddio.

Hefyd, fel llawer o blanhigion mewn ardaloedd sych a chynnes, mae Lithops yn defnyddio ffotosynthesis CAM er mwyn arbed ei gyflenwad dŵr. Mae’n cadw ei stomata ar gau drwy gydol y dyddiau poeth i sicrháu nad oes dŵr yn trydarthu allan. Mae hyn hefyd yn atal carbon deuocsid, sy’n hanfodol ar gyfer ffotosynthesis, rhag dod i mewn. I ddygymod â hyn, mae planhigion CAM yn dal carbon deuocsid yn ystod y nos, ac yn ei droi i mewn i asidau organig. Yn ystod y dydd, wedyn, gyda’r stomata ar gau, maen nhw’n defnyddio’r carbon o’r asidau organig, ynghyd ag egni goleuni’r haul, mewn adweithiau ffotosynthetic.

Hyn i gyd mewn planhigyn bychan sy’n edrych fel carreg o waelod tanc pysgod!

Ymddangosodd yr erthygl yma gyntaf ar fy hen flog.